Bwyta cyfoes gwahanol

Green border

Wedi’i leoli yng nghanol tref Wrecsam, fel rhan o ddatblygiad newydd cyffrous, mae Bwyty iâl yn cynnig profiad bwyta cyfoes gydag awyrgylch hamddenol a bywiog. Rydym yn angerddol, nid dim ond am ein profiad bwyta gwych, ond hefyd am gynaliadwyedd, iechyd a’r amgylchedd.

Un o’n prif nodau yw cefnogi’r strategaeth o’r Fferm i’r Fforc Cymru ac Ewrop, drwy gynhyrchu ein cig ein hunain, tyfu ein ffrwythau a’n llysiau ein hunain, a chynhyrchu ein cynhyrchion llaethdy ein hunain, gyda chymorth ein cydweithwyr yn Llaneurgain a fferm Llysfasi. Mae Bwyty iâl hefyd yn frand dan faner Coleg Cambria, ac fe’i lgrëwyd i lunio dyfodol sector lletygarwch Cymru. Rydym yn addysgu ac yn hyfforddi darpar gogyddion a myfyrwyr lletygarwch, gan feithrin eu sgiliau ac ysbrydoli eu brwdfrydedd am gynnyrch safon uchel a gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.

Pa bynnag brofiad bwyta rydych chi’n chwilio amdano, gallwn ei ddarparu i chi – o ginio sydyn i ychydig o oriau hamddenol gyda’ch ffrindiau. O de prynhawn i ddathlu, i bryd moethus gyda’r nos, neu efallai y byddech yn hoffi cael rhywbeth ysgafnach wrth brofi’r awyrgylch, mwynhau ein byrbrydau bar gwych, ein dewis helaeth o win, cwrw lleol a’r coctels diweddaraf.

Os mai’ch syniad chi o’r profiad perffaith ydi rhoi cynnig ar seigiau cyfoes, lleol mewn amgylchedd chwaethus, modern, fydd Bwyty iâl ddim yn eich siomi. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni; archebwch fwrdd heddiw. Allwn ni ddim aros i gael eich croesawu.

Cymerwch olwg ar ein mannau masnachol eraill…

P’un a ydych chi’n dathlu, yn coffáu, yn tretio’ch hun neu’n anfon dymuniadau arbennig, rydym yn gwybod bod arnoch chi eisiau’r gwasanaeth gorau, y blodau mwyaf ffres a phrofiad rhagorol; dyna yw addewid iâl Flowers.

Mae’r tîm creadigol yn angerddol am bopeth sy’n ymwneud â blodau ac wrth law i wireddu’ch syniadau neu helpu i’ch rhoi chi ar ben ffordd.

Yn iâl Salon, mae’r tîm o steilyddion a therapyddion talentog yma i chi. P’un a ydych chi’n bwriadu cael steil newydd sbon, yn chwilio am gyngor ar y ffasiynau neu’r triniaethau diweddaraf, eisiau ychwanegu sblash o liw neu angen ymlacio a dadflino yn nwylo medrus y therapyddion harddwch, mae Salon iâl yn ymroi i helpu pawb i gyflawni’r profiad a’r ddelwedd sy’n wastad wedi mynd â’u bryd .

5/5