Mwynhewch Y Te Prynhawn Gorau Yn Wrecsam

Dewch i fwynhau’r traddodiad Prydeinig clasurol hwn a darganfod y te prynhawn gorau yn Wrecsam ym Mwyty iâl.

Dewch i gael te prynhawn gyda ni a chewch fwynhau amrywiaeth o frechdanau bach ffres, sgons cartref gyda hufen a jam, ynghyd ag amrywiaeth amheuthun o gacennau cain a blasus.

Bydd eich te prynhawn yn cael ei weini gyda dewis o wahanol flasau o de neu ein cymysgedd coffi unigryw ni ein hunain.

Fel arall, petai’n well gennych gael diod gydag ychydig mwy o fybls, mae gennym amrywiaeth helaeth o winoedd pefriog a chwrw lleol.

Mae te prynhawn yn costio £15 y pen ac yn cael ei weini o ddydd Mercher tan ddydd Sadwrn bob wythnos. Rydym yn argymell bwcio o flaen llaw.

Cliciwch y botwm i fwcio eich bwrdd neu ffoniwch 01978 548818 am ragor o wybodaeth.

Ffoniwch ni ar 01978 548818 gydag unrhyw gwestiynau dietegol, yn ogystal â rhoi gwybod i aelod o’r tîm am eich gofynion dietegol wrth gyrraedd er mwyn i ni allu eich helpu i wneud y dewis gorau.

Gwybodaeth am Alergenau

(Ll) Llysieuol
(DG) Diglwten
(DGA) Diglwten Ar Gael
(C) Yn Cynnwys Cnau

Alergeddau bwyd
Cyn archebu, siaradwch â’n staff am eich gofynion.

Gofynion dietegol
Gallwn ddarparu ar gyfer pob gofyniad dietegol, ond ar gyfer rhai prydau bydd angen i ni gael gwybod amdanynt o flaen llaw.

CADWCH FWRDD

Allwn ni ateb unrhyw gwestiynau?

white divider

Dyma sut allwch chi gysylltu â ni

Ffoniwch

01978 548 818

Dod o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol